Mae is-grŵp ’Cynnyrch Lleol a’r Gymuned Leol’ Cittaslow Yr Wyddgrug yn ymwneud â maen prawf aelodaeth ‘D’ ar annog cynnyrch a chynhyrchion lleol, maen prawf ‘E’ ar letygarwch a’r gymuned, a maen prawf ‘F’ ar greu ymwybyddiaeth o Cittaslow. Mae ei brosiectau yn cynnwys:
- Gweithredu argymhellion astudiaeth 2010 i sut i gynyddu a sicrhau Cynnyrch Lleol yn Yr Wyddgrug a’r cylch.
- Cyflawni gwerthusiad opsiynau a datblygu cynllun busnes ar gyfer canolfan fwyd leol yn Yr Wyddgrug.
- Cynnal a hyrwyddo cyfeirlyfr o gynnyrch a chynhyrchwyr lleol yn yr ardal.
- Annog amrywiaeth gyda mwy o gynnyrch lleol yn ein siopau a’n tai bwyta.
- Cynnal ystod o weithgareddau o Rasys Crempog i Wyliau i’r gymuned gymryd rhan ynddynt a’u mwynhau.
- Cael stondin farchnad Cittaslow fisol ym marchnad Yr Wyddgrug i hybu ymwybyddiaeth o Cittaslow.